CROESO CYNNES I FEILLIONYDD BACH

Gwyliau fferm hunan-ddarpar yw Meillionydd Bach mewn ardal hyfryd ger Aberdaron ym Mhen Llŷn sydd o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE). Mae ganddom fwthyn i ddau neu ffermdy i 5 sydd o safon 4 seren gyda chynllun graddio Croeso Cymru.

Dilynwch y ffyrdd bach hudolus yn llawn blodau gwyllt i Feillionydd Bach. Yma mae hyfrydwch a distawrwydd yn eich taro.

Edrychwn ymlaen at roi croeso cynnes Cymreig yma ar ein fferm deuluol draddodiadol lle y cewch ymlacio a dianc o fwrlwm bywyd. Bydd cacennau cartref a danteithion lleol yn eich aros. Ceisiwn ein gorau i wneud eich gwyliau yn gofiadwy.

FFERMDY

Dwy ystafell wely dwbl un gyda chawod pŵer en-suite. Teledu a radios yn y ddwy ystafell wely. Ystafell ymolchi ar wahân. Mae’r Lolfa’n cael ei chynnal a’i chadw i safon gyffredinol ragorol ynghyd â dodrefn hynafol. Clyd gyda chyfoeth o drawstiau, inglenook mawr gyda thân boncyff agored. Teledu a DVD.

BWTHYN

Adeilad allanol wedi ei droi yn fwthyn cysurus a chlyd o safon uchel i ddau. Cynllun agored gyda chegin fodern sy’n creu awyrgylch draddodiadol a chartrefol. Dodrefn cyfforddus o safon uchel, gwres canolog ac yn ychwanegol mae yna stof goed i wneud eich arhosiad yn berffaith.